Croesawu Meddyg BanglaCymru
Ar Sul olaf Medi daeth Dr Jishumoy Dev draw o Bangladesh i sôn wrthym yn y Tabernacl am ei waith gyda BanglaCymru. Sefydlwyd yr elusen yn 2008 gan Wil Morus Jones i roi llawdriniaethau i blant sy’n dioddef o gyflwr gwefus a thaflod hollt yn ogystal â’r rhai sydd wedi dioddef llosgiadau difrifol. Cyflawnir y gwaith mewn canolfan newydd pwrpasol ac yn Ysbyty Centrepoint yn Chittagong. Hefyd bu’r tîm meddygol ar deithiau yn cynnal sesiynau mewn llefydd megis Varanasi, Cox’s Bazar a Tanagail.
![wilbanglacymruimg_6825](http://www.tabernacl.org/wp-content/uploads/2013/10/WilBanglaCymruImg_6825-300x225.jpg)
Dr Jishumoy Dev
![wilbanglacymruimg_6827](http://www.tabernacl.org/wp-content/uploads/2013/10/WilbanglaCymruImg_6827-300x292.jpg)
Wil Morus Jones a Dr Jishumoy Dev
Bangladesh, yn ôl ystadegau’r Cenhedloedd Unedig yw gwlad dlotaf Asia, ac mae mwy o blant yn cael eu geni gyda thaflod a gwefus hollt yma nag unrhyw ran arall o’r byd. Amcangyfrifir bod tua pum mil o blant yn cael eu geni gyda’r cyflwr hwn yn flynyddol ym Mangladesh ond dim ond eu hanner sy’n cael eu trin oherwydd diffyg cyllid a darpariaethau meddygol. Mae’r driniaeth yn newid bywydau’n ddramatig, nid yn unig o ran pryd a gwedd ond hefyd yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn economaidd. Cyflawnwyd dros 1200 o lawdriniaethau dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Cewch ragor o fanylion, ynghyd â ffurflen i wneud cyfraniad ariannol YMA.