Archif Awdur: Golygydd
Cyhoeddiadau Mehefin 26ain 2016
Dillad i Blant Ffoaduriaid
Dyma ddau lun yn dangos rhai o’r plant a dderbyniodd ddillad gennym ni fel aelodau Capel y Tabernacl.
Mae rhagor o luniau i’w gweld YMA
Cyhoeddiadau Mehefin 19eg, 2016
Cyhoeddiadau Mai 15fed, 2016
Y Ganolfan
Y GANOLFAN, TABERNACL, EFAIL ISAF
Mae gennym Ganolfan aml-bwrpas ardderchog sy’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf. Wyddech chi bod modd llogi’r Ganolfan ar gyfer pob math o weithgareddau?
Mae’n Ganolfan boblogaidd sy’n cynnig amgylchedd deniadol, cyfoes, am bris rhesymol ar gyfer gweithgreddau grwpiau bychain.
Beth am gysylltu â Rheolwr y Ganolfan i drafod beth allwn ni ei gynnig?
Ann Dixey – 07505 323299
Mae’r daflen hon yn rhoi’r manylion diweddaraf am yr hyn sydd ar gael.
Medrwch lawrlwytho’r daflen i’w darllen neu ei hargraffu drwy wasgu yma: Y Ganolfan
(Lluniwyd y daflen gan wasg Morgannwg)
Y TWMIAID BACH YN NEWID Y BYD – FIDEO NEWYDD
Dyma fideo a ddangoswyd gan y Twmiaid Bach yn ein Gwasanaeth Diolchgarwch ym mis Hydref eleni (2014)
Llythyr at y Gwleidyddion
LLYTHYR AT Y
GWLEIDYDDION
Wrth i’r Gweithgor Cyfiawnder Cymdeithasol drafod y Banc Bwyd yn eu cyfarfod cyn y Nadolig fe nodwyd gyda phryder y defnydd cynyddol a wneir o’r Banciau Bwyd ar draws y Deyrnas Gyfunol a’r cyni y mae hynny yn ei ddynodi. Cwestiynwyd pam fod angen Banc Bwyd o gwbl mewn gwlad sydd i fod i edrych ar ôl y gwannaf yn y gymdeithas trwy’r Wladwriaeth Les. Daethpwyd i’r penderfyniad y dylid datgan y pryder yn gyhoeddus ac anfon llythyr at Adran Gwaith a Phensiynau y Llywodraeth yn Llundain sydd â chyfrifoldeb dros y ddarpariaeth i’r tlawd a’r difreintiedig, gan anfon copi o’r llythyr at y Prif Weinidog David Cameron, Canghellor y Trysorlys George Osborne ynghyd â’n Haelod Seneddol Owen Smith, ein Haelod Cynulliad Mick Antoniw a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru. Dyma gopi o’r llythyr a anfonwyd:
Pregeth Olaf Eirian
Fore Sul Rhagfyr 1af, a hithau’n Sul Cymun, cawsom ein hatgoffa mai dyma bregeth olaf Eirian fel gweinidog y Tabernacl. Er ein bod i gyd yn gwybod fod hynny ar ddod, ac er fod Eirian ei hun wedi ein paratoi ers blynyddoedd am hyn, roedd wynebu realiti’r sefyllfa yn brofiad chwithig iawn. Fel y dywedwyd ar derfyn yr oedfa wrth ddiolch iddo, rydym yn ffodus tu hwnt fodpregethu Eirian mor rymus ag erioed, a’i gyfraniad i fywyd yr eglwys yn dal yn ddisglair.
Bydd cyfle i gydnabod ei wasanaeth hir yn fwy teilwng yn y flwyddyn newydd, ar ôl ei driniaeth, ond yn y cyfamser y cyfan fedrwn ni ei wneud yw diolch yn ddiffuant iddo am roi cymaint i bob un ohonom.
Yn ystod gwanwyn 1970 y daeth Ann ac Eirian i fyw i Efail Isaf, ac Eirian newydd ei benodi i swydd fel athro yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Caerdydd. Cyn hynny, roedd wedi bod yn weinidog am wyth mlynedd, gan wasanaethu eglwysi yng Nghasllwchwr a Melincryddan, Castell Nedd. Yn wir, byddai’n dal i bregethu yng Nghastell Nedd ar nifer o Suliau wedi symud i’r ardal hon, gan adael Ann a’r bechgyn i fynychu’r Tabernacl ac adrodd yn ôl iddo am sut le oedd yno. A’r gwir yw mai darlun go druenus oedd hwnnw, gyda chriw bach iawn yn dod at ei gilydd i addoli, yr arian yn brin a’r iaith yn gwegian. Bu’r gynulleidfa heb weinidog ers 17 mlynedd. Doedd dim dal ym mha iaith y byddai’r oedfa ar y Sul, gan fod hynny’n dibynnu ar y pregethwr.
Ers yn agos i ddwy flynedd, roedd y Tabernacl a Bethlehem, Gwaelod-y- garth wedi bod yn chwilio am weinidog ar y cyd. Ond yn ofer.
Tabernacl oedd y gwannaf un o gapeli’r cylch ar y pryd, a’r disgwyl oedd mai ym Minny Street neu Ebeneser Caerdydd y byddai’r teulu bach newydd yn ymaelodi o ddifrif. Ond nid felly y bu. Dechreuodd Eirian ddilyn ei wraig i’r Tabernacl pan fedrai, a manteisiodd y swyddogion yno ar ei bresenoldeb, gan ei wahodd i fod yn ddiacon, ac wedi ei adnabod yn well, gofynnwyd iddo lenwi’r pulpud yn rheolaidd. Oni bai am hynny, fyddai dim arian i dalu’r biliau, a byddai’r drysau wedi gorfod cau.
Llun Isod: Rhaglen Cyfarfod Sefydlu Eirian
Yn raddol, dechreuodd nifer yr aelodau gynyddu, ac ym 1973 fe sefydlwyd Eirian yn weinidog anrhydeddus. Erbyn hyn roedd yr aelodaeth wedi cyrraedd 64. Derbyniwyd 40 o aelodau newydd yn ystod y misoedd nesaf, a pharhaodd y twf hwnnw nes bod 143 ar y llyfrau erbyn 1980. Heddiw, mae’r Tabernacl yn gryfach nag erioed, gyda 180 ar y llyfrau.
(E.D. Rhag 2013)
Chwyddo Cronfa Apêl Haiti
Llawer o ddiolch i’r rhai sydd wedi bod mor ddiwyd yn rhedeg y stondin nwyddau Masnach Deg. Gwnaed elw o £1129.82 yn ystod y cyfnod diwethaf, a throsglwyddwyd siec am y swm anrhydeddus hwn i Apêl Haiti.