Cadwodd pentref Efail Isaf ei gymeriad Cymraeg a Chymreig am flynyddoedd lawer, a does dim dwywaith nad oedd y capel yn gymorth mawr i hynny. Fel ym mhob capel, bu yma genedlaethau o arweinwyr a chymwynaswyr disglair, a hwythau’n bobl oedd yn gefn i’r bywyd Cymraeg mewn talcen caled ym Mlaenau Morgannwg am flynyddoedd lawer. Bu’r Parchg. D. Stanley Jones yn weinidog yma am flynyddoedd, ac roedd bri mawr ar y côr plant oedd yn perthyn i’r capel. Ond maes o law, fe adawodd y dylanwadau estron eu hôl, ac fe ddechreuodd yr achos ddirywio yn y Tabernacl.
Ar ddiwedd y chwedegau, dim ond 40 o aelodau oedd yma, a’r rhan fwyaf o’r rheiny yn bensiynwyr. Saesneg oedd iaith yr Ysgol Sul, ac fe ystyriwyd troi’r oedfaon yn Saesneg. Ond yna, fe gyrhaeddodd gwaed newydd, egni ffres, a brwdfrydedd heintus. Wrth i’r ysgolion Cymraeg gael eu sefydlu yn y fro, denwyd mwy a mwy o Gymry Cymraeg i ymsefydlu yn y cylch, a dechreuwyd cenhadu o’r newydd. Dyrchafwyd y Parchg. D. Eirian Rees yn weinidog gyda chefnogaeth werthfawr pobl fel Edward Morris-Jones a Penri Jones, ac yn raddol daeth tro ar fyd.
Ochr yn ochr â’r bywyd newydd yn y capel ei hun, daeth Efail Isaf yn ganolbwynt i nifer o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol. Cynhaliwyd Eisteddfod Y Garth ar ddechrau'r '1970au, ac er fod honno wedi hen ddiflannu, mae Côr Godre’r Garth yn rhywbeth a dyfodd ohoni. Yn ddiweddarach daeth Côr Merched y Garth a Pharti’r Efail, a’r tri grŵp yn ymarfer yn rheolaidd yn y pentref, naill ai yn y neuadd neu yn festri’r capel.
1970 Canmlwyddiant y capel presennol. Derbyniwyd y Parchedig a Mrs Eirian Rees yn aelodau.
Gwneud y Parchedig D. Eirian Rees yn ddiacon a gwahoddwyd ef i bregethu o leiaf un Sul y mis.
1973 Cwrdd ymgysegru i'r holl eglwys gan sefydlu Y Parchedig D. Eirian Rees yn weinidog anrhydeddus. Aelodaeth yn 64.
1974 Peintiwyd y capel.
1976 Derbyniwyd 41 o aelodau yn ystod y flwyddyn.
1977 Adeiladwyd ystafell ymolchi a chegin i'r tŷ capel ar gost o £6,806.84c.
1980 Penderfynwyd atgyweirio'r festri gan ychwanegu estyniad ar gost o £6,600.
Dathlu pen-blwydd y capel presennol yn 110 mlwydd oed. Aelodaeth yn 143.