Roedd cwm Taf ac ardal Llantrisant yn fwrlwm o reilffyrdd wrth i'r diwydiant glo ehangu. Agorwyd y rheilfford rhwng Llantrisant, Tonteg a Phontypridd yn 1875.
Ond David Davies, Llandinam, ddaeth a'r rheilffordd i Efail Isaf oherwydd y galw am wella'r cysylltiad rhwng ei lofeydd yn y Rhondda a'i Ddociau newydd yn y Barri.
Cwlblhawyd y rheilffordd yn 1889 a chludwyd dros miliwn o dunelli o lo yn y flwyddyn gyntaf.
Cychwynwyd cario teithwyr o orsaf Efail Isaf yn 1896 a rhedodd y trên olaf ar 10 Medi 1962.
Y Trên Olaf 1962
![Gorsaf Efail Isaf 1920](../../../images/stories/pentref/1920gorsaf.jpg)